Adeilad rhestredig

Adeilad rhestredig
Enghraifft o'r canlynolcofrestr diwylliannol, statws defnydd Edit this on Wikidata
Mathsafle treftadaeth yn y Deyrnas Unedig, adeilad Edit this on Wikidata
Yn cynnwysadeilad rhestredig Gradd I, adeilad rhestredig Gradd II*, adeilad rhestredig Gradd II, adeilad rhestredig categori A, adeilad rhestredig categori B, adeilad rhestredig categori C Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pont reilffordd dros Afon Forth, a gynlluniwyd gan Syr Benjamin Baker a Syr John Fowler, ac a agorwyd i'r cyhoedd yn 1890. Mae wedi'i gofrestru fel Adeilad Categori A gan Historic Scotland.

Mae adeilad rhestredig yn adeilad yng ngwledydd Prydain neu ogledd Iwerddon sydd ar gofrestr statudol o adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig neu hanesyddol. Ceir tua hanner miliwn o adeiladau wedi'u rhoi ar restrau sawl corff: Cadw yng Nghymru, Historic Scotland, English Heritage a NIEA (Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon).

Defnyddir y term hefyd yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyda National Inventory of Architectural Heritage yn gyfrifol am y cofrestru. Y term swyddogol yno yw "strwythur wedi'i warchod".[1]

Ni chaniateir dymchwel adeilad cofrestredig, na'i ehangu neu ei addasu heb ganiatâd arbennig gan yr awdurdod cynllunio lleol, sydd yn ei dro'n ymgynghori gydag asiantaeth y llywodraeth ganolog perthnasol (ee Cyfoeth Naturiol Cymru neu Cadw), yn enwedig gydag adeiladau o nod (Gradd 1 neu 1*). Gellir gwneud eithriad o adeiladau crefyddol lle'i defnyddir heddiw i addoli, ond dim ond yn yr achosion hynny ble ceir gweithdrefnau caniatâd wedi'u cymeradwyo.

Nantclwyd y Dre, Rhuthun; Gradd I

Ar adegau gorfodir perchnogion i gynnal a chadw'r adeilad neu ei drwsio, a gallant gael eu herlyn os na wnânt hynny, neu pe baent yn newid yr adeilad mewn unrhyw fodd, heb y caniatâd priodol. Mae'r gyfraith yn caniatau tynnu adeilad o'r rhestr os profir ei fod yno drwy gangymeriad.[2]

  1. "Buildings of Ireland". Cyrchwyd 14 August 2012.
  2. "Listing FAQs". English Heritage. Cyrchwyd 24 Mai 2011.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search